Having problems viewing
this site? Click here

  Members Guernsey Northern Ireland Isle of Man Jersey Wales Scotland United Kingdom Ireland Privacy Policy Disclaimer Copyright Site Map Search

print this frame
English Version

Parc Cathays, Caerdydd.

Castell Carreg Cennen, Sir Gaerfyrddin.

Parc Cathays, Caerdydd. Pencadlys Llywodraeth Cynulliad Cymru, yn y ganolfan ddinesig Edwardaidd hynod yng Nghaerdydd.

Castell Carreg Cennen, Sir Gaerfyrddin. Mae'r castell yn dyddio o'r 13eg a'r 14eg ganrif, ac mae bellach yng ngofal Cadw, sef asiantaeth dreftadaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru. Llun h. 2001 Cadw: Welsh Historic Monuments.

Maes gwaith blaenoriaethol o fewn BIC : Ieithoedd Llai a Ieithoedd Llai eu defnydd                                                     Cynhwysiant Cymdeithasol (ar y cyd â'r                                                       Alban)

Prifddinas : Caerdydd

Llywodraeth : Mae Cymru'n rhan o'r DU ac mae Senedd y DU'n parhau i ddeddfu dros Gymru. Yn sgil Refferendwm Medi 1997 o blaid datganoli dros Gymru, pasiwyd Deddf Llywodraeth Cymru ym mis Gorffennaf 1998 yn nodi pwerau a swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Cynhaliwyd etholiadau cyntaf y Cynulliad ym mis Mai 1999. Mae'r Cynulliad yn cynnwys 60 Aelod o'r Cynulliad (ACau). Etholir ACau o dan system cynrychiolaeth gyfrannol: Mae 40 yn cynrychioli etholaeth benodol ac mae 20 yn cynrychioli'r 5 rhanbarth etholiadol (4 AC i bob rhanbarth). Cynhelir etholiadau bob pedair blynedd.


Mae gan y Cynulliad gyfrifoldeb dros y canlynol:

• Amaethyddiaeth
• henebion ac adeiladau hanesyddol
• diwylliant
• datblygu economaidd
• addysg a hyfforddiant
• yr amgylchedd
• iechyd a gwasanaethau iechyd
• priffyrdd
• tai
• diwydiant
• llywodraeth leol
• gwasanaethau cymdeithasol
• chwaraeon a hamdden
• twristiaeth
• cynllunio gwlad a thref
• trafnidiaeth a ffyrdd
• yr iaith Gymraeg
Mae Gweinidogion y DU'n parhau i fod yn gyfrifol am faterion nad ydynt wedi'u dirprwyo i'r Cynulliad, megis polisi tramor, trethu a nawdd cymdeithasol


Manylion cyswllt : Os hoffech wybod rhagor am Gymru, ewch i www.cymru.gov.uk